Mae pawb yn haeddu lle i fyw
Rydym wedi dilyn y dystiolaeth i ddarganfod beth yw’r anghenion go iawn.
Nid ar gyfer heddiw’n unig, ond yn y tymor hir ac am byth.

Everybody In: Sut i roi diwedd ar ddigartrefedd ym Mhrydain Fawr

Ym Mhrydain yr 21ain ganrif, fe ddylai fod gan bawb le i fyw. Rydym angen Pawb Mewn i atal digartrefedd

Sut y bu i ni greu'r cynllun

Rydym wedi defnyddio’r ddealltwriaeth orau yn genedlaethol ac o dramor i ddangos sut y gallwn atal digartrefedd am byth

Sut y bu i ni greu'r cynllun


Cefndir

Rydym oll yn haeddu lle diogel a sefydlog i fyw ynddo. Ond, ar gyfer 236,000 o bobl ym Mhrydain, nid ydym yn gwarchod yr angen dynol sylfaenol hwn sy’n wynebu’r mathau gwaethaf o ddigartrefedd.

Cefndir


Mae pobl yn colli eu cartrefi pan mae pwysau bywyd, fel costau’r cartref neu ddiweithdra, yn cynyddu a mynd yn ormod iddyn

Y Ddinas Gardfwrdd yn y 1990au cyn ymdrechion cytunedig i leihau digartrefedd

Cefndir


Heb gefnogaeth gan lywodraeth, mae cynnydd sydyn mewn pwysau fel colli swydd neu fynd yn sâl yn gallu golygu bod pobl yn mynd yn ddigartref yn gyflym

Mae’r holl ddata o Ffigwr 2.1 a 2.2 ym Mhennod 2 “Polisi Cyhoeddus a Digartrefedd’ yn dangos bod:

the rise in homelessness acceptances following The Housing (Homeless Persons) Act (1977); Sco: Shows Scottish Government rough sleeping statistics as priority need was abolished over the decade; Wal: Shows more households having their homelessness prevented and relieved following new duties in The Housing (Wales) Act 2014. Yn Lloegr: Twf yn y digartrefedd sy’n cael ei gydnabod ers dyfodiad Ddeddf Tai (Pobl Ddigartref) (1977) Yn Yr Alban: Ystadegau cysgu allan Llywodraeth yr Alban fel angen blaenoriaethol wedi eu diddymu dros y ddegawd. Yng Nghymru: Mwy o atal a lleddfu digartrefedd yn dilyn dyle

Cefndir


Dros amser, mae dewisiadau o ran polisi wedi cynyddu a lleihau digartrefedd
O 1977 ymlaen, roedd gan deuluoedd digartref yr hawl i dŷ am y tro cyntafLloegr, 1970au/1980au Trwy chwalu’r rhwystrau i dderbyn cymorth, disgynnodd y nifer oedd yn cysgu ar y stryd i ychydig dros 1,000 Yr Alban, 2000au Trwy ganolbwyntio ar atal digartrefedd mae mwy o bobl wedi eu barnu’n gymwys i dderbyn cymorth Cymru, 2010au

Rhagamcan o nifer yr aelwydydd fydd yn profi’r mathau gwaethaf o ddigartrefedd ym Mhrydain Fawr dros 25 mlynedd.

Cefndir


Llety i bobl ddigartref mewn prosiect Tai yn Gyntaf dan ofal Sefydliad-Y yn Y Ffindir, lle mae digartrefedd cystal â bod ar ben

Cefndir


Gyda dewisiadau gwleidyddol ar sail yr hyn sydd wedi gweithio gartref a thramor, gallwn roi diwedd ar ddigartrefedd. Mae’r cynllun hwn yn cynnig atebion mentrus i wleidyddion.
  • Yr hyn mae rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn ei olygu

    Yr hyn mae rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn ei olygu

    Amlinellu beth fydd y cynllun hwn yn ei wireddu

  • Rhywle sefydlog i fyw

    Rhywle sefydlog i fyw

    Helpu pawb sy’n ddigartref nawr

  • Help i gadw cartref

    Help i gadw cartref

    Sicrhau fod pobl yn derbyn y cymorth cywir pan maent ei angen

  • Atal digartrefedd

    Atal digartrefedd

    Gwneud popeth yn ein gallu i atal pobl rhag colli eu cartrefi

  • Beth fydd ei angen

    Beth fydd ei angen

    Dangos sut mae gwireddu hyn

  • Everybody In

    Everybody In

    Sut y gallwch chi ein helpu i atal digartrefedd

  • Beth ydym yn ei wneud

    Beth ydym yn ei wneud

    Cynnydd yn Lloegr, Yr Alban a Chymru

Yr hyn mae atal digartrefedd yn ei olygu

Dydy rhoi diwedd ar ddigartrefedd ddim yn golygu na fydd unrhyw un yn colli ei gartref byth eto. Mae’n golygu, na fydd yn digwydd yn aml ac y bydd datrysiad sydyn ar gael pan mae’n digwydd.

Yr hyn mae atal digartrefedd yn ei olygu


Mae’r cynllun hwn yn mynd ati i sicrhau fod gan bawb rywle sefydlog i fyw, fel nad oes unrhyw un wedi ei adael mewn lle peryglus, anniogel neu, waethaf oll, ar y stryd

Yr hyn mae atal digartrefedd yn ei olygu


“Cael tŷ yw fy unig ddymuniad. Dwi’n gwybod os oes gennyf ‘stafell neu fflat fydd ddim ots am bethau eraill. Gyda lle iawn a phobl iawn dwi’n gwybod y gallwn ddod o hyd i swydd.”
Jo

Yr hyn mae atal digartrefedd yn ei olygu


Mae’n dangos sut i wneud yn siŵr fod gan bawb y gallu i aros yn eu cartref, gyda’r cyfuniad cywir o gefnogaeth sy’n gweithio iddyn nhw

Yr hyn mae atal digartrefedd yn ei olygu


“Ro’n i’n byw mewn llety preifat ac yn cael budd-dal tai, ond doedd o ddim yn ddigon i dalu’r diffyg yn y rhent, felly mi es i ôl-ddyled a chefais wybod fy mod i’n mynd i gael fy nhroi allan o fy nghartref.”
Florence

Yr hyn mae atal digartrefedd yn ei olygu


Ac mae’n dangos mai’r ffordd orau o roi diwedd ar ddigartrefedd ydy drwy ei atal

Yr hyn mae atal digartrefedd yn ei olygu


"Cefais fy rhyddhau o’r carchar wythnos yn ôl. Doedd yna ddim cyngor am lety a thai na dim byd felly. Doedd yna ddim help. Ddwedon nhw ddim byd wrtha’i, dim ond fy ngadael allan. Dwi wedi bod ar y stryd ers hynny."
Christopher

Lle sefydlog i fyw i bawb

Mae unrhyw un sy’n ddigartref nawr angen rhywle diogel a sefydlog i fyw.

Lle sefydlog i fyw i bawb


Fe ddylai pawb sy’n profi digartrefedd ym Mhrydain fod â’r hawl i dderbyn cymorth, beth bynnag fo’u cefndir

*Not her real name

Lle sefydlog i fyw i bawb


“Rydyn ni mewn llety dros dro efo ‘chydig iawn o arian a dim cyfrif banc. Dwi’n gobeithio cael fy rhif yswiriant cenedlaethol yn fuan – wedyn alla’i gael swydd a gofalu am fy rhieni.”
Sameera*

Lle sefydlog i fyw i bawb


Mae angen i ni ddod o hyd i bawb sy’n cysgu allan a’u helpu am gyn hired ag y mae’n ei gymryd i ddod o hyd i gartref

Lle sefydlog i fyw i bawb


Dylid symud y rhai sydd ond angen ychydig o help llaw, fel cymorth gyda blaendal, i lety diogel a gweddus yn hytrach na rhywle dros dro

Lle sefydlog i fyw i bawb


Lle sefydlog i fyw i bawb


Ni ddylai llety argyfwng fyth fod yn ateb tymor hir ar gyfer unrhyw un sy’n ddigartref

100,500 social homes need to be built each year for the next 15 years to meet the needs of homeless people and people in Britain on low incomes

Lle sefydlog i fyw i bawb


Lle sefydlog i fyw i bawb


Mae’r newidiadau sydd eu hangen i gael cartref sefydlog i bawb yn cynnwys

Galluogi pawb i gael mynediad at gymorth, yn cynnwys diddymu’r meini prawf angen blaenoriaethol yng Nghymru a Lloegr

Terfyn amser ar y defnydd o lety dros dro sy’n anaddas

100,500 o gartrefi cymdeithasol newydd bob blwyddyn ledled Prydain Fawr am y 15 mlynedd nesaf.

Helpu pobl i gadw eu cartrefi

Rydym angen sicrhau fod gan bawb y gallu neu’r gefnogaeth i gadw eu cartref

Helpu pobl i gadw eu cartrefi


Mae angen i ni leihau’r pwysau ar bobl sy’n dod yn sgil rhent uchel a budd-daliadau annigono

Mae’n dangos y bwlch misol rhwng cyfraddau Lwfans Tai Lleol a’r rhent cyfartalog ar gyfer eiddo dwy lofft fesul ardal. Er enghraifft, yn Birmingham fe fyddech angen dod o hyd i £60.20 trwy ddulliau eraill er mwyn cael mynediad i’r farchnad rhentu; yng Ngogledd Llundain Fewnol fe fyddech angen £126.16.

Mae hyn yn rhwystr arwyddocaol i ddod o hyd i gartref a’i gadw.

 

Helpu pobl i gadw eu cartrefi


Helpu pobl i gadw eu cartrefi


Mae’n golygu gwell gwarchodaeth i bobl sy’n rhentu eu cartrefi

Helpu pobl i gadw eu cartrefi


Mae hefyd yn golygu sicrhau fod gan bobol y gefnogaeth gywir, pryd bynnag maent ei hangen. Fe allai hynny fod yn help i ddod o hyd i swydd a chadw’n gyfredol gyda biliau neu gymorth i deimlo’n iawn yn gorfforol a meddyliol.

Helpu pobl i gadw eu cartrefi


Mae’r newidiadau sydd eu hangen i helpu pobl i gadw eu cartrefi yn cynnwys

Budd-dal Tai sy’n cwrdd â chostau llety ac sy’n ystyried cynnydd tebygol mewn rhent

Cefnogaeth cyflogaeth a thai integredig ar gyfer pobl ddigartref

Cyllido cynlluniau Help i Rentu er mwyn ei gwneud yn haws i bobl symud i mewn i’w cartrefi a’u cadw

Atal digartrefedd

Y ffordd orau i roi diwedd ar ddigartrefedd yw ei atal rhag digwydd yn y lle cyntaf

Pe bai bob awdurdod lleol ledled Prydain Fawr yn mabwysiadu’r arfer gorau o ran atal digartrefedd, byddai degau o filoedd yn llai o aelwydydd yn dod yn ddigartref bob blwyddyn. Gweler Pennod 5 ‘Rhagamcanu Digartrefedd

Atal digartrefedd


Atal digartrefedd


Os oes rhywun mewn peryg o golli ei gartref, rhaid i gynghorau a sefydliadau perthnasol wneud popeth y gallant i sicrhau bod ganddynt gartref

Atal digartrefedd


Golyga hyn bod angen cyllid digonol gan y Llywodraeth arnynt er mwyn gallu gweithredu pan mae angen

Atal digartrefedd


"Es at y swyddog tai a dweud beth oedd fy sefyllfa, ond fe ddwedon nhw fod dim modd iddynt fy helpu gan fy mod mewn swydd lawn amser. Eglurais mai dim ond help gyda’r blaendal oeddwn ei angen, ond fe ddwedon nhw doedd dim allent ei wneud."
Adam

Atal digartrefedd


Mae’r newidiadau sydd eu hangen i atal digartrefedd yn cynnwys

Dyletswydd ar awdurdodau lleol yn yr Alban i atal digartrefedd

Dyletswydd ehangach ar gyrff cyhoeddus ym mhob gwlad ym Mhrydain Fawr i atal digartrefedd

Cyllido Ymyriadau Amser Tyngedfennol, dull seiliedig ar dystiolaeth, sy’n helpu’r bobl â’r mewn perygl mawr o fod yn ddigartref

Yr hyn fydd ei angen

Rydyn ni’n gwybod beth ydy costau a manteision helpu pobl ddigartref

Yr hyn fydd ei angen


Gyda’r polisïau cywir yn eu lle, gallwn roi cartref sefydlog i bawb o fewn deng mlynedd

Yr hyn fydd ei angen


Mae’n rhaid gwneud yn siŵr ein bod yn cadw llygad manwl ar y cynnydd

Mae PricewaterhouseCoopers LLP wedi amcangyfrif y bydd cyfanswm y costau o gefnogi pobl ddigartref, mewn perthynas â’n pum diffiniad o roi diwedd ar ddigartrefedd rhwng 2018 a 2041, yn £19,289m a bydd yn rhoi buddiannau gwerth £53,908m. Mae y rhain yn seiliedig ar Werth Presennol prisiau 2017 ac yn berthnasol i ddatrysiadau penodol a gostiwyd yn eu model.

Yr hyn fydd ei angen


Yr hyn fydd ei angen


Ond yn bwysicach, rhoi diwedd ar ddigartrefedd yw’r peth iawn i’w wneud

Everybody In

Rydym yn gwybod y gallwn atal digartrefedd. Ond mae angen Pawb i Mew i wneud iddo ddigwydd. Ydych chi i mewn?

Everybody In


Mae ein cynllun yn dangos sut i roi diwedd ar ddigartrefedd. Ond nawr mae angen gwneud iddo ddigwydd. Ydych chi i mewn i atal digartrefedd? Ymunwch â’n hymgyrch Pawb Mewn, a gofynnwch i’ch gwleidydd lleol wneud yr un fath.

Everybody In


"Dwi mewn i roi diwedd ar ddigartrefedd oherwydd dwi’n credu bod hynny’n bosib. Dwi’n teimlo’n falch o fod yn rhan o hyn." 
Adar

Everybody In


Mae dros 10,000 o bobl eisoes wedi dweud eu bod i mewn i #EndHomelessness. Ydych chi i mewn?

Lle ydym arni

Ni fu erioed gymaint o sylw ar roi diwedd ar ddigartrefedd ym Mhrydain. Rydym yn gwneud cynnydd drwy’r amser.

Lle ydym arni


Cliciwch ar y tabiau i weld y cynnydd diweddaraf yng Nghymru Lloegr a’r Alban:

Ymrwymiad gan y llywodraeth i roi diwedd ar gysgu allan erbyn 2027, gyda strategaeth i’w chyflwyno gan y Tasglu Cysgu Allan a Digartrefedd newydd

Cronfa o £30 miliwn ar gyfer cynghorau gyda lefelau uchel o gysgu allan a £28 miliwn ar gyfer tri prosiect peilot Tai yn Gyntaf

Cafodd y Ddeddf Lleihau Digartrefedd ei gweithredu yn 2018, i sicrhau fod miloedd mwy o bobl yn derbyn cefnogaeth i atal a rhoi diwedd ar eu digartrefedd

Mae cynnydd diweddar yn Yr Alban yn cynnwys

Llywodraeth Yr Alban yn sefydlu’r Gweithgor Cysgu Allan er mwyn edrych ar drawsnewid ledled y wlad

Cronfa £50 miliwn Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd Gyda’n Gilydd i gefnogi argymhellion y gweithgor

Ymrwymiad gan Lywodraeth Yr Alban i adeiladu o leiaf 50,000 o dai fforddiadwy erbyn 2012, yn cynnwys 35,000 o gartrefi cymdeithasol

Mae cynnydd diweddar yng Nghymru’n cynnwys:

Dyletswyddau atal newydd ar gynghorau lleol i helpu unrhyw un sydd wedi ei fygwth gan ddigartrefedd neu i leddfu’r sefyllfa ar gyfer pobl sydd eisoes yn ddigartref

Egwyddorion cenedlaethol Tai yn Gyntaf ar gyfer Cymru yn cael eu sefydlu, gyda chyllid i beilotio’r dull ledled y wlad

Ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i roi diwedd ar ddigartrefedd ieuenctid o fewn 10 mlynedd (erbyn 2027)